Roedd Gemma Loveless, trigolyn o’r Barri, wedi eisiau ceisio defnyddio e-feiciau ar ôl clywed am y prosiect E-Symud a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn ystod digwyddiad ar gyfer y cyngor lleol. Ar ôl cyfarfod munud-olaf efo un o swyddogion prosiect ϱ Cymru, cafodd Gemma a’i theulu'r cyfle i ddefnyddio e-feic am y tro cyntaf, a fan hyn mae hi’n rhannu ei phrofiad.
Cafodd teulu Gemma trawsnewidiad llwyr o ganlyniad i'r e-feic. Llun gan: Gemma Loveless.
Rydym yn byw yn dref arfordirol hyfryd yn Ne Cymru, un sydd â lot o fryniau – yn ffodus i ni, rydym yn byw ar y gwaelod, ond mae ‘na wastad llefydd i fynd sy’n meddwl mynd i fyny’r allt.
Mae gennym deulu ifanc ac nid ydym o reidrwydd yn teimlo’n heini, felly rydym wedi tueddu i ddefnyddio’r car ar gyfer ein siwrneiau petai rydym yn mynd â’r plant i’r ysgol, ymarfer pêl-droed, ymweld â ffrindiau, neu bethau symlach fel casglu parseli.
Roedd pob un o’r teithiau yma i lefydd lleol, felly dechreuais i ofyn fy hun, “A oes ffordd well?”
Cyfle cyffrous i'r holl deulu
Cwrddais ag Emily o ϱ ar foment olaf digwyddiad ar gyfer gweithwyr y cyngor lleol.
Clywais bydd beiciau trydanol yna i drio a meddyliais buaswn yn ceisio’u defnyddio’n gyflym i weld pa mor hwylus oeddynt.
Pan ddwedodd Emily wrthaf roedd yna gyfle i fenthyg beic trydanol am fis am ddim, meddyliais “Gwych!”
Rydym wedi beicio o’r blaen, ac rydym wedi defnyddio olgert a sedd beic ar gyfer ein hifancaf, ond dim ond erioed yn ardaloedd gwastad y dref – y traeth, parc lleol, nid i fyny’r allt.
Nid oedd ein hynaf yn gallu mynd lan y bryniau heb afaelion a theimlais doedd dim ffordd buaswn i’n gallu tynnu plentyn ar fy mhen fy hun; bydd e-feic yn meddwl gallan deithio’n bellach.
Dechreuad y profiad yn cwestiynu rhagdybiau
Cawsom ein dechreuad efo Tern GSD, ac roedd yn ddigon hawdd i’r plant dod ynghyd.
Mae hynny’n gywir, gall y beic yma cludo dau blentyn yn union fel car, yn ogystal â phob peth arall.
Cofiwch, nid erodynameg â leicra amdanoch yw hyn!
Roedd yn gymaint hawsach na beth oeddwn yn disgwyl i deithio o gwmpas efo’r cymorth, ond roeddwn i’n wir mwynhau’r ffaith bod dal angen pedlo ac yn bendant cael ymarfer corff wrth ddefnyddio’r beic.
Ar ôl ymweld â chyfleusterau lleol cwpl o weithiau, penderfynais nawr oedd yr amser i roi’r her gyntaf go iawn i’r Tern.
Aethom i ymweld â ffrind a wnaeth symud yn ddiweddar i fyw ar un o fryniau mwyaf bondigrybwyll Y Barri, Stryd y Drindod.
Efo graddiant o 1 mewn 5, bydd chwilio’r ffordd ar rannau o’r bryn a’u strydoedd yn her go iawn i weld pa mor dda gall e-feic fod yn nhref sydd efo bryniau heriol iawn.
Roedd yna rhai rhannau byr, serth, ond efo’r tyrbo, mynd yn groesymgroes, a digonedd o gefnogaeth gan fy ddau deithiwr, llwyddom i’w wneud!
Heb unrhyw amheuaeth, cododd cyflymder fy nghalon, a’r peth gorau oedd y ffaith i mi wneud hyn heb ddefnyddio’r car.
Buaswn wedi defnyddio’r car ar gyfer y daith yma’n arferol, gan wybod bydd yn her i gerdded adref efo dau o blant, a doedd dim ffordd buaswn wedi’ wneud efo beic arferol.
Er i ni gael ein gwlychu yn y glaw ar y ffordd adref, doedd dim modd digalonni ni; yn hytrach, roedden i gyd yn wen o glust i glust ar ôl mynd yn chwim lawr y bryniau!
Newid llwyr ar gyfer yr holl deulu
Yn anffodus, ar ôl cael tri phwl o COVID yn y tŷ doedd dim modd i ni ddefnyddio’r Tern am gyfnod, ond roedd dal gennym yr awydd i ddefnyddio e-feic.
Cawsom ein gofyn pan ddychwelsom yr e-feic yn Ionawr, “Sut ydy defnyddio’r e-feic wedi newid sut byddech yn teithio yn y dyfodol?”
Wel, wrth i mi ysgrifennu hyn nawr, rydym wedi prynu e-feic ein hun – yr un math â’r hyn cawsom gael benthyg o ϱ Cymru.
Rydym yn cael ymarfer corff, rydym yn arbed arian, a does dim angen i ni bryderu am y llygredd a daeth o ddefnyddio’r car.
Rydym yn gallu cludo popeth sydd angen ar y plant ar gyfer gwibdaith, a does dim amheuaeth i mi gall e-feiciau cymryd lle ceir.
Am y prosiect E-Symud
Prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n cynnig benthyciad e-feiciau am ddim yw E-Symud, wedi' ddarparu ym mhartneriaeth â ϱ.
Mae ‘na 20 e-feic ar gael trwy’r prosiect i bobl, busnesau a mudiadau yn Y Barri a’r ardal gyfagos i ddefnyddio.
Mae’r prosiect E-Symud hefyd yn cael ei weithredu mewn dinasoedd a threfi eraill ar draws Cymru, gan gynnwys Abertawe, Aberystwyth, Y Drenewydd, a’r Rhyl.
Os ydych yn fyw yn neu’n agos i'r Barri a bod gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy, neu os hoffech ddysgu mwy am y prosiect E-Symud ar draws Cymru, cysylltwch ag emily.sinclair@sustrans.org.uk.