ϱ

Read this page in English Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg

Published: 27th FEBRUARY 2024

Cymru’n mwynhau manteision helaeth o ganlyniad i’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ond ϱ yn galw am weithrediad ar frys i ddiogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Ased cenedlaethol yw’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol sydd ag effeithiau positif helaeth ar les ac iechyd pobl, yn ogystal â’r economi, yn ôl adroddiad newydd gan ϱ Cymru. Mae Cerdded, Olwyno a Ffynnu yn edrych ar sut mae’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn mynd ati’n weithredol i gyflawni amcanion lles Cymru.

A walker on an NCN route in Wales, with an estuary either side of the path.

Mae adroddiad newydd gan ϱ Cymru yn tanlinellu’r fath raddau mae’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn effeithio’n bositif ar fywydau pobl. Llun gan: Abhijith Sebastian.

Mae adroddiad newydd gan ϱ Cymru’n dangos gwerth y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.

Mae Cerdded, Olwyno a Ffynnu: Lles a’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yng Nghymru yn gosod allan sut mae’r Rhwydwaith yn cyfrannu yn erbyn pob un o saith Amcan Lles Cenedlaethol Cymru.

A Millennium Milepost on NCN 5 in front of Flint Castle.

Mae’r Rhwydwaith yn gasgliad o lwybrau a ffyrdd sy’n cael eu defnyddio’n aml gan bob math o berson. Llun gan: Kim Williams.

Beth yw’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol?

Mae’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol – yn aml yn cael ei gyfeirio at fel y RBC – yn rhwydwaith ar led y DU o lwybrau a ffyrdd arwyddedig sy’n cael ei ddefnyddio’n aml ar gyfer cymudo, ar gyfer hamdden, ac ar gyfer twristiaeth.

Mae’n cynnwys ffyrdd di-draffig a ffyrdd â chyfraddau isel o draffig, ac er ei enw mae’r rhan fwyaf yn cynnwys llwybrau cyd-ddefnyddio.

Mae bron i 60% o boblogaeth Cymru’n byw o fewn milltir i’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, ac mae’n rhedeg trwy bob un o’r 22 ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru.

Three cyclists on a rural NCN route, with green hills around them.

Mae’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn rhedeg trwy bob rhan o Gymru a gellir ei chanfod ymhob sir. Llun gan: Abhijith Sebastian.

Effeithiau cadarnhaol ar draws bywydau pobl yng Nghymru

Mae’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol wedi’ ddangos i gael nifer o fanteision ar fywydau pobl, yn nhermau lles ac iechyd pobl, yn ogystal ag yn ariannol.

Cadarnhaodd pobl a gafodd ei arolygu ar eu rhesymau dros ddefnyddio’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ei fod yn chwarae rôl hynod o bositif yn eu hiechyd corfforol a meddyliol.

Dwedodd 83% of ddefnyddwyr y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn y DU ei fod yn gwella eu boddhad cyffredinol mewn bywyd, a dwedodd 70% eu bod nhw’n defnyddio’r Rhwydwaith i wella eu lles.

Mae gweithgaredd corfforol ar y Rhwydwaith hefyd wedi’ amcangyfrif i atal bron a bod 600,000 o ddyddiau salwch.

Yn ôl yr adroddiad, mae busnesau lleol ar draws y DU wedi elwa gan amcangyfrif o £1.7 biliwn gan ddefnyddwyr y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.

A landslip on NCN 4 by Wisemans Bridge in Pembrokeshire.

Mae tirlithriadau a llifogydd yn digwydd yn gyflym ac yn hollti'r Rhwydwaith. Llun gan: Cyngor Sir Penfro.

Angen ar frys ar gydnabyddiaeth a chefnogaeth

Er hyn, mae ϱ yn rhybuddio bod angen gweithrediad ar frys i ddiogelu’r ased pwysig yma ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae’r elusen yn dweud bod effaith tywydd eithafol yn arwain at broblemau sylweddol sy’n gallu cau ffyrdd yn gyfan gwbl.

Mae llifogydd a thirlithriadau’n digwydd yn gyflym iawn, yn torri cysylltiadau rhwng cymunedau am gyfnodau sylweddol efo costau atgyweirio uchel.

Yn Wisemans Bridge, Sir Benfro, mae rhan o RBC 4 wedi’ gau yn gyfan gwbl yn dilyn tirlithriad mawr.

Yng Nghonwy, mae Pont Ddulas angen trawstiau newydd ar ôl cael difrod o ganlyniad i lifogydd diweddar.

Mae rhwystr mawr arall wedi' achosi gan dirlithriad wedi golygu bod rhan o'r Llwybr Ystwyth ar gau.

Mae Christine Boston, Cyfarwyddwr ϱ Cymru, yn esbonio:

"Nid yw Rhwydwaith sy'n heneiddio yn gallu gwasanaethu anghenion y dyfodol, felly mae angen i ni fod yn rhagweithiol a buddsoddi mewn rhwystrad nawr cyn ei fod yn rhy hwyr,” medd Christine Boston, Cyfarwyddwr ϱ Cymru.

“Os nad ydynt yn amddiffyn y Rhwydwaith nawr, byddan yn colli’r holl fanteision cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd sy’n mor bwysig i bobl Cymru.

“Rydym yn gweithio'n gadarnhaol efo Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ar led y wlad i warchod, gwella, a sicrhau bod y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn parhau i wasanaethu pobl Cymru, ond mae 'na brys yma i sicrhau nad ydym yn colli'r hyn mae'r Rhwydwaith yn rhoi i ni."

Darllenwch yr adroddiad Cerdded, Olwyno a Ffynnu: Lles a’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yng Nghymru yn llawn.

Cefnogwch y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol a’r gwaith rydym yn wneud i’w ddiogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Share this page

Darllenwch y newyddion diweddaraf o Gymru